Dylunydd
graffig
Rwy'n ddylunydd graffig llawrydd gyda dros 20 mlynedd o brofiad, yn gweithio o'm stiwdio yng nghefn gwlad gorllewin Cymru.
Rwy'n arbenigo mewn dylunio logos, creu brand, print ac ymgyrchoedd, gan ddod â'm profiad helaeth, creadigrwydd, sylw i fanylder a chrefft i bob prosiect. Cyn sefydlu fy stiwdio fy hun yn 2009, bûm yn gweithio mewn stiwdios yn Llundain a Brighton. Symudom ni i fyw ger Llanbedr Pont Steffan yn 2014 i fagu ein teulu.
Beth rwy’n ei wneud
Rwy'n gweithio gyda chleientiaid mewn nifer o sectorau ac ar draws pob llwyfan o frandio, print, gwefannau ac arddangosfeydd. Rwy'n dod â meddylfryd newydd, syniadau a chariad gwirioneddol at rannu gwybodaeth ac arbenigedd.
Enillais radd dosbarth cyntaf mewn dylunio graffig o Brifysgol Salford ger Manceinion ac enillais Wobr D&AD i Fyfyrwyr a gwobr Guardian Media yn fy mlwyddyn olaf.
Cysylltwch â mi ar hello@janehilder.co.uk
Rwy'n arbenigo mewn:
– Brandio
– Dylunio ar gyfer print
– Dylunio ar gyfer y we
– Hysbysebu ac ymgyrchoedd
– Cyfathrebu mewnol / newid
– Dylunio arddangosfeydd.
Rwy’n ddysgwr Cymraeg.